Arolwg o’r Gymraeg fel Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 a’r Cyfnod Pontio H Hawlfraint y Goron 2004. Gellir atgynhyrchu rhan neu’r cyfan o’r adroddiad hwn at ddibenion anfasnachol ar yr amod na chaiff unrhyw ddarnau a ddyfynnir eu haddasu a’u bod yn hytrach yn dilyn y gwreiddiol air am air, ac y cydnabyddir ffynhonnell a dyddiad y dyfyniadau. Estyn, Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd CF24 5JW Ffôn: 029 2044 6446 Ffacs: 029 2044 6448 Cynnwys Tudalen 1. Cyflwyniad 1 2. Prif ganfyddiadau 2 3. Argymhellion 4 4. Arfer dda yn y Gymraeg fel ail iaith 5 4.1 Trefniadau pontio effeithiol rhwng addysg gynradd ac uwchradd 5 4.1.1 Polisïau pontio effeithiol 5 4.1.2 Cynllunio ar y cyd 6 4.1.3 Rhannu arbenigedd 9 4.1.4 Addysgu a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg 9 4.1.5 Trosglwyddo a defnyddio data 11 4.1.6 Gweithgareddau allgyrsiol i hyrwyddo cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd 13 4.1.7 Cymraeg fel ail iaith a defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu 14 5. Rheoli gwelliant 20 5.1 Monitro ac arfarnu effeithiol 20 5.1.1 Strategaethau monitro a gwella effeithiol 21 5.1.2 Arsylwi yn y dosbarth 21 6. Canfyddiadau arolygiadau Adran 10 Estyn ar safonau ac ansawdd yn ystod y tair blynedd diwethaf 22 7. Y nodweddion da a’r diffygion mewn safonau cyflawniad mewn Cymraeg fel ail iaith 25 8. Sylwadau i gloi 27 Arolwg o’r Gymraeg fel Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 a’r Cyfnod Pontio 1. Cyflwyniad Yn ei adolygiad o’i bolisi iaith Gymraeg, Ein Hiaith: Ei Dyfodol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nodi, er mwyn codi safonau dwyieithrwydd: ● ‘dylai ysgolion ystyried ffyrdd o wella safonau mewn Cymraeg fel ail iaith’; a ● ‘dylai ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg ddatblygu polisïau i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy fel cyfrwng dysgu mewn pynciau penodol’. Cynhaliwyd yr arolwg hwn o arfer mewn Cymraeg fel ail iaith fel rhan o gylch gorchwyl blynyddol Estyn ar gyfer 2003-2004 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r adroddiad hwn o ganfyddiadau’r arolwg yn arfarnu agweddau ar arfer dda mewn addysgu a dysgu Cymraeg fel ail iaith yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Rhoddir pwyslais penodol ar y cyfnod pontio rhwng y ddau gyfnod allweddol. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar safonau. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar: ● dystiolaeth o arolygiadau ysgol Adran 10 a gynhaliwyd yn 2002-2003; ● ymweliadau undydd gan AEM â 38 o ysgolion cynradd ac uwchradd yn ystod tymor yr hydref 2003 ac yn nhymor y gwanwyn 2004; a ● thrafodaethau gydag ymgynghorwyr Cymraeg ac athrawon bro AALlau. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried tueddiadau mewn safonau ac ansawdd dros y tair blynedd diwethaf, gan ddefnyddio data arolygu Estyn. Er mwyn helpu codi safonau mewn Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, mae’r adroddiad yn rhoi sylw penodol i nodi: ● disgrifiadau o arfer dda; ● prif nodweddion safonau da; ● diffygion cyffredin lle mae safonau ac ansawdd yn anfoddhaol neu’n foddhaol yn unig; a’r ● materion allweddol sydd angen sylw er mwyn codi safonau. Nid bwriad yr adroddiad hwn yw cynnwys pob agwedd ar addysgu a dysgu, ac nid ydym yn disgwyl y bydd pob astudiaeth achos neu enghraifft o arfer dda a ddyfynnir yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i bob ysgol. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai o’r enghreifftiau hyn yn helpu ysgolion i wella dulliau addysgu, dysgu a safonau mewn Cymraeg fel ail iaith. 1 Arolwg o’r Gymraeg fel Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 a’r Cyfnod Pontio 2. Prif ganfyddiadau Pontio rhwng addysg gynradd ac addysg uwchradd Cynllunio ar y cyd Er bod rhai enghreifftiau o fentrau defnyddiol wrth gynllunio ar gyfer pontio i fyfyrwyr rhwng cyfnodau allweddol, ni cheir digon o gysylltiadau cwricwlwm o ansawdd da i sicrhau dilyniant mewn dysgu. Yn rhy aml, mae ysgolion uwchradd yn dechrau addysgu Cymraeg ail iaith ar fan cychwyn sy’n rhy isel, heb ystyried cyflawniadau blaenorol y disgyblion. Rhannu arbenigedd Un o’r mentrau gorau o ran gwella’r trefniadau ar gyfer pontio yw rhannu arbenigedd rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd lle mae ysgolion uwchradd Cymraeg yn gweithio gydag ysgolion cynradd sy’n eu bwydo. O ganlyniad, mae’r disgwyliadau wedi codi ac mae’r disgyblion bellach yn gwneud rhywfaint o waith ym Mlwyddyn 6, rhywbeth nad oedd yn bosibl o’r blaen tan Flwyddyn 7. Addysgu a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg Mae llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd yn gweld manteision defnyddio’r ail iaith fel cyfrwng i gynnig profiadau yn y cwricwlwm ehangach. Rhoddir cyfleoedd gwell i ddisgyblion ddefnyddio eu medrau iaith mewn cyd-destunau heblaw’r wers iaith. Mae dysgu a chymhelliant y disgyblion yn gwella hefyd. Trosglwyddo a defnyddio data Mae systemau’n bodoli i ddarparu data am gyflawniad disgyblion ar unwaith. Serch hynny, nid yw llawer o ysgolion cynradd yn trosglwyddo data, ac mae eraill yn trosglwyddo data annigonol i roi darlun clir o gyflawniadau disgyblion. Mae rhywfaint o ddata yn cyrraedd ysgolion uwchradd yn rhy hwyr i fod yn ddefnyddiol. Gweithgareddau allgyrsiol Mae nifer cynyddol o AALlau ac adrannau Cymraeg mewn ysgolion uwchradd wedi datblygu ystod o weithgareddau fel darpariaeth diwrnodau rhagflas, cwisiau llyfrau, ysgrifennu storïau a chysylltiadau e-bost i ddisgyblion Blwyddyn 6 i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan i weithgareddau arferol yr ystafell ddosbarth. Cymraeg fel ail iaith a defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Mae defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn hybu hunanhyder a chymhelliant y disgyblion mewn Cymraeg fel ail iaith. Gall y disgyblion ymchwilio’n annibynnol, cyfathrebu â disgyblion mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a datblygu medrau darllen drwy ddefnyddio adnoddau Cymraeg ar y rhyngrwyd. Rheoli gwelliant Monitro ac arfarnu effeithiol Mae gan gydlynwyr Cymraeg a phenaethiaid yr adrannau Cymraeg rôl bwysig i’w chwarae wrth fonitro ac arfarnu ansawdd yr addysg a safonau gwaith mewn Cymraeg fel ail iaith. Mae’r math gorau o fonitro yn defnyddio arsylwadau yn yr 2 Arolwg o’r Gymraeg fel Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 a’r Cyfnod Pontio ystafell ddosbarth i arfarnu’r hyn sy’n mynd yn dda a nodi’r rhesymau dros y llwyddiant hwn. Mae monitro hefyd yn canolbwyntio ar sut i hyrwyddo dilyniant effeithiol o gyfnodau allweddol 2 i 3. Arsylwi yn yr ystafell ddosbarth Mae’r gwelliannau mwyaf effeithiol mewn addysgu a dysgu Cymraeg fel ail iaith wedi digwydd pan fo athrawon cynradd ac uwchradd yn arsylwi dulliau addysgu a gwaith disgyblion yn nosbarthiadau ei gilydd. Mae athrawon yn cael gwell dealltwriaeth o arfer ei gilydd yn sgîl rhannu arsylwadau. Safonau cyflawniad Mae safonau mewn Cymraeg fel ail iaith yn waeth na safonau mewn unrhyw bwnc Cwricwlwm Cenedlaethol arall. Fodd bynnag, mae safonau cyflawniad wedi codi dros y tair blynedd diwethaf yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Bu cynnydd yn nifer y dosbarthiadau lle mae disgyblion yn cyflawni safonau boddhaol a da, a gostyngiad yng nghyfran y gwaith anfoddhaol. Serch hynny, dim ond cyfran fechan iawn o safonau cyflawniad sy’n dda iawn – y canran uchaf o bob pwnc yn y ddau gyfnod allweddol. Mae safonau cyflawniad yn anfoddhaol neu’n wael mewn 3% o ddosbarthiadau cynradd a 5% o ddosbarthiadau uwchradd. Er bod safonau cyflawniad wedi gwella, maent yn dal i fod yn is nag unrhyw bwnc Cwricwlwm Cenedlaethol arall. Safonau cyflawniad mewn ysgolion cynradd Er bod y gwaith anfoddhaol wedi gostwng, ni fu unrhyw gynnydd sylweddol mewn safonau da. Mae safonau da iawn yn brin. Yn gyffredinol, nid yw’r safonau ym Mlynyddoedd 5 a 6 gystal â safonau ym Mlynyddoedd 3 a 4. Mae cyfran y dosbarthiadau â safonau cyflawniad da neu dda iawn ym Mlynyddoedd 5 a 6 yn 2002-2003 yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Ar y cyfan, nid yw disgwyliadau’r athrawon na gwaith y disgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 yn ddigon heriol i ddatblygu ar y cynnydd yn y safonau a gyflawnir ym Mlynyddoedd 3 a 4. Safonau cyflawniad mewn ysgolion uwchradd Mae cyfran y gwaith sy’n foddhaol neu’n dda wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf. Dim ond ychydig o’r gwaith sy’n dda iawn ac ni fu unrhyw welliant yng nghyfran y gwaith da iawn yn y tair blynedd diwethaf. Ar y cyfan, nid yw’r disgwyliadau yng nghyfnod allweddol 3 yn ddigon uchel i herio disgyblion i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn yr ysgol gynradd. Yn rhy aml, nid yw’r cynlluniau gwaith yn ystyried yr angen i gynllunio dilyniant a pharhad. 3 Arolwg o’r Gymraeg fel Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 a’r Cyfnod Pontio 3. Argymhellion Er mwyn codi safonau o foddhaol i dda a da iawn, mae angen: ● gofyn am ymatebion hwy ar lafar gan ddisgyblion a phrofi eu gallu i gymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i sefyllfaoedd cyfathrebu naturiol, gan gynnwys gwneud cyfraniadau digymell ac estynedig; ● ymestyn yr ystod darllen a gwella gallu disgyblion i drafod agweddau ar ffuglen a defnyddio ffynonellau ffeithiol; ● gwella gallu disgyblion i ysgrifennu’n gywir yn eu geiriau eu hunain ar gyfer ystod gynyddol o ddibenion ac mewn amrywiaeth o ffurfiau; ● cynllunio’n ofalus i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd cyson ar draws y cyfnodau allweddol mewn ystod o fedrau darllen ac ysgrifennu; ● sicrhau dilyniant yn y dysgu rhwng cyfnodau allweddol 2 a 3; a ● datblygu strategaethau mewn ysgolion ar gyfer hunanarfarnu ansawdd a’r safonau a gyflawnir. Dylai athrawon: ● wella dilyniant a pharhad mewn dulliau addysgu rhwng cyfnodau allweddol 2 a 3; ● arsylwi dosbarthiadau yn y sector a ddaw cyn neu ar ôl eu sector hwy, i wella dilyniant a pharhad rhwng cyfnodau allweddol 2 a 3; a ● monitro safonau’n rheolaidd drwy arsylwi a samplu gwaith disgyblion, ac olrhain cynnydd disgyblion yn erbyn eu cyflawniad blaenorol. Dylai ysgolion cynradd: ● sicrhau y caiff digon o wybodaeth am gyflawniad disgyblion ei throsglwyddo ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 ac y caiff ei defnyddio i gynllunio cynlluniau gwaith yng nghyfnod allweddol 3. Dylai ysgolion uwchradd: ● adolygu a mireinio eu cynlluniau Cymraeg fel ail iaith i sicrhau gwell dilyniant a pharhad rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae angen iddynt godi disgwyliadau disgyblion a chynnig gwaith iddynt sydd yr un mor heriol â’r astudiaethau achos arfer dda sydd yn yr adroddiad hwn. 4 Arolwg o’r Gymraeg fel Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 a’r Cyfnod Pontio 4. Arfer dda yn y Gymraeg fel ail iaith 4.1 Trefniadau pontio effeithiol rhwng addysg gynradd ac uwchradd Mae’r term pontio yn cwmpasu’r holl ddarpariaeth a gynigir gan ysgolion, neu AALlau perthnasol, i gynorthwyo a chefnogi disgyblion wrth iddynt drosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd. Mae gan y mwyafrif o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac AALlau gynlluniau a rhaglenni i wella pontio. Mae ysgolion cynradd ac uwchradd yn gweithio gyda’i gilydd fwyfwy i wella parhad mewn addysgu a dysgu rhwng cyfnodau allweddol 2 a 3. Mae’r cynlluniau mwyaf effeithiol yn nodi’r gwahanol ffactorau sy’n gysylltiedig â phontio effeithiol, er enghraifft, llunio polisïau a chynllunio ar y cyd, ac yn dangos sut y maent yn bwriadu gwneud gwelliannau fel yr amlinellir yn Symud Ymlaen: Pontio Effeithiol o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3, Estyn 2003. Yn ddiweddar mae AALlau wedi rhoi blaenoriaeth i wella pontio mewn Cymraeg fel ail iaith. Maent wedi darparu hyfforddiant, adnoddau a chynhaliaeth ymgynghorol i ysgolion i’w helpu i wella’r cysylltiadau rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd. Yn y sefyllfaoedd gorau, mae ysgolion cynradd ac uwchradd wedi datblygu cynlluniau ar y cyd i wella pontio ac maent yn eu cynnwys yn eu cynlluniau datblygu ysgol. 4.1.1Polisïau pontio effeithiol Mae trefniadau pontio effeithiol yn cynnwys pob athro sydd naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gyfrifol am gynnydd disgyblion o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 3. Mae rhai ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cytuno ar bolisïau ar y cyd, gyda nodau ac amcanion clir. Mae’r athrawon yn yr ysgolion hyn yn deall eu cyfrifoldebau eu hunain dros weithredu’r polisïau hyn. Mae gan y polisïau pontio gorau drefniadau sefydlog rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer: ● creu cynlluniau gwaith ar y cyd ar gyfer pontio fel bod disgyblion yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol; ● gwella parhad mewn dulliau addysgu a dysgu; ● trosglwyddo a defnyddio data ar gyflawniadau disgyblion yn effeithiol; ● arsylwi arfer yr ystafell ddosbarth yn y ddau sector; a ● rhannu arbenigedd. Mae’r astudiaeth achos ganlynol yn disgrifio sut mae trefniadau pontio da yng Ngheredigion yn cefnogi dilyniant rhwng cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 ar gyfer disgyblion sy’n astudio Cymraeg fel ail iaith. 5 Arolwg o’r Gymraeg fel Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 a’r Cyfnod Pontio Astudiaeth achos 1: Trefniadau pontio i ddatblygu dilyniant rhwng cyfnodau allweddol 2 a 3. Mae ysgol uwchradd a’r holl ysgolion cynradd mewn tref yng Ngheredigion wedi dod ynghyd i sefydlu Pwyllgor Llywio Pontio ar gyfer yr ardal. Mae aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys holl benaethiaid yr ardal. Mae paneli pwnc wedi cael eu sefydlu ar gyfer pob pwnc cwricwlwm, gan gynnwys Cymraeg fel ail iaith. Mae’r panel Cymraeg fel ail iaith wedi edrych ar ffurfiau iaith a gyflwynir i ddisgyblion i sicrhau bod athrawon yn defnyddio patrymau brawddeg a geirfa yn gyson ar draws y ddau gyfnod allweddol. Yn ogystal, mae’r AALl wedi paratoi profion Cymraeg fel ail iaith ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a ddefnyddiwyd ym mis Mai 2003 i asesu cynnydd disgyblion. Yn sgîl y datblygiadau hyn: ● mae’r berthynas rhwng yr ysgol uwchradd a’r ysgolion cynradd wedi cryfhau oherwydd bod athrawon cynradd ac uwchradd yn cydweithio’n agosach; ● lluniwyd portffolio yn rhoi enghreifftiau o lefelau cyflawniad disgyblion mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig; ● mae’r ysgol uwchradd wedi cael llawer mwy o wybodaeth ynglfln â chyflawniad disgyblion Blwyddyn 7; a ● gall yr ysgol uwchradd adeiladu ar y gwaith a wnaed yng nghyfnod allweddol 2 yn fwy effeithiol ym Mlwyddyn 7. 4.1.2 Cynllunio ar y cyd Yn ddiweddar mae rhai ysgolion uwchradd wedi datblygu cynlluniau ar y cyd gyda’r ysgolion cynradd yn eu dalgylchoedd. Defnyddir y term ‘uned bontio’ i ddisgrifio uned o waith y mae athrawon cynradd ac uwchradd wedi’i chynllunio ar y cyd. Fel arfer, caiff yr uned bontio ei dechrau ar ddiwedd Blwyddyn 6 a’i chwblhau ar ddechrau Blwyddyn 7. Mae’r unedau gorau yn llwyddo i gynnal parhad yn nysgu disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae AALlau yn helpu’r holl ysgolion cynradd ac uwchradd yn eu hawdurdod i ddatblygu unedau pontio ar y cyd yn ystod y cyfnod pontio. Gall ysgolion addasu’r modelau hyn yn unol â’u hamgylchiadau penodol eu hunain. Mae’r astudiaeth achos isod yn disgrifio’r ffordd y mae AALlau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi cydweithio i ddatblygu ‘uned bontio’ sy’n rhaglen fer o waith ar ffurf llyfryn sy’n cwmpasu cyfnodau allweddol 2 a 3. 6
Description: